Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwahodd trigolion, cymudwyr ac ymwelwyr sy’n defnyddio Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin (i gael mynediad at reilffyrdd a bws) i rannu eu barn mewn arolwg ‘Dweud eich Dweud’. Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw:
Cael mewnwelediad i’r heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth fyned i, a defnyddio Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin
Deall ymddygiadau teithio a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewisiadau teithio
Casglu barn ar sut y gall gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd cydweithio’n fwy effeithiol
Dysgu pa welliannau sydd mwyaf pwysig i deithwyr a chymunedau lleol.
Bydd yr adborth yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu cynigion cychwynnol y flwyddyn ariannol hon sy’n anelu at wella amgylchedd yr orsaf a gwneud teithiau gyda gwahanol ddulliau o drafnidiaeth (megis trên i fws) yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am dair wythnos rhwng 21 Medi a 12 Hydref. Bydd cydweithwyr TrC wrth law yng Ngorsaf Reilffordd Caerfyrddin ar Ddydd Iau 24 Medi rhwng 0800 a 1800 i drafod y prosiect a chasglu adborth gan ddefnyddwyr yr orsaf.
Ceir dolen i’r ymgynghoriad a’r arolwg ar-lein isod (bydd arolwg Caerfyrddin i weld yno o Ddydd Llun 21 Medi):
Arolygon agored | Trafnidiaeth Cymru
Er nad yw cyllid i gyflawni gwelliannau wedi’i sicrhau eto, bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn chwarae rhan bwysig wrth lunio cynigion cynnar TrC. Bydd deall blaenoriaethau lleol yn helpu i osod sylfaen o dystiolaeth gadarn i lywio a chefnogi cyfleoedd cyllido a buddsoddi’r dyfodol.
Os gwelwch yn dda, ystyriwch rannu’r ymgynghoriad gyda’ch etholwyr i helpu i godi ymwybyddiaeth ac annog cyfranogiad. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi eich adborth trwy gyflwyno eich ymateb eich hun i’r arolwg.
Unwaith y bydd y cynigion cychwynnol wedi’u datblygu, bydd TrC yn cynnal cylch arall o ymgynghori i ofyn am adborth ar y cynigion drafft.